Llongyfarchiadau i Tom Congdon a Hope Vaughan-Hughes ar ddod yn gyntaf yn Eisteddfod Cylch Uwchradd Llwchwr nos Wener yn Ysgol Gyfun Gŵyr. Roedd Tom yn cystadlu yn yr unawd llinynnol dan 19oed ar y fiolín, a Hope yn yr unawd chwythbrennau ar y ffliwt. Cafwyd noson hir, ond llawn adloniant, a chanmoliaeth uchel i’r ddau, a chyfeilydd Tom sef Sam Vine. Bydd yr Eisteddfod Sir yn Ysgol Gyfun Bryntawe ar yr 2il Ebrill.
Bu criw o fyfyrwyr celf Llwyn y Bryn yn cymryd rhan yn y cystadlaethau Celf a Dylunio a Thechnoleg dan 19 oed hefyd. Dyma oedd canlyniadau'r categori Celf:
Mikey Davies - 1af
Ashleigh Brookes 2il
Emily Bruce 3ydd
Canlyniadau’r categori Dylunio a Thechnoleg:
Justine Zamora - 1af
Proy Kanchula - 2il
Will Green - 3ydd
Da iawn hefyd i Ryan Jones a Carly Jenkins am gystadlu.
Mae’r cyntaf a’r ail o bob cystadleuaeth yn mynd drwyddo i’r Sir; os enillant yno byddant yn mynd i’r rownd derfynol yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Bala ym mis Mai.
Pob lwc i bob un ohonynt!
Congratulations to Tom Congdon and Hope Vaughan-Hughes who came first in the Llwchwr Round of the Urdd Eisteddfod on Friday evening in Ysgol Gyfun Gŵyr. Tom was competing in the under 19 string solo on the violin, and Hope in the woodwind solo on the flute. We had a long, but highly entertaining evening, and there was great praise for them both, as well as Tom’s accompanist Sam Vine. The County Eisteddfod will be held at Ysgol Gyfun Bryntawe on the 2nd April.
A group of Llwyn y Bryn art students took part in the Art and Design and Technology under 19 compeitions. The results in the Art category were:
Mikey Davies– 1st
Ashleigh Brookes– 2nd
Emily Bruce– 3rd
The Design and Technology category results:
Justine Zamora– 1st
Proy Kanchula– 2nd
Will Green– 3rd
Well done to Ryan Jones and Carly Jenkins who also competed.
The first and second in each competition go through to the County round; if they are successful in there they will be through to the final round in the National Urdd Eisteddfod in Bala in May.
Good luck to all of our students!