Bu criw o fyfyrwyr Cymraeg sy'n dilyn cyrsiau Perfformio yn yng Ngholeg Gwyr Abertawae yn ymweld â thîm talentog sy’n rhedeg cwrs BA Perfformio yng Nghanolfan Berfformio Cymru yn y Gate yng Nghaerdydd - cwrs sy’n cael ei ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cafodd ein myfyrwyr gyfle i gymryd rhan mewn gweithdai actio, dawnsio a chanu dan arweiniad Eiry Thomas, Jackie Bristow, Elen Bowman ac Eilir Owen Griffiths. Roedd yn ddiwrnod llawn hwyl a dysgu, ynghyd a hybu'r Gymraeg yn y maes yma.