Bu Coleg Gŵyr Abertawe yn dathlu Dydd Santes Dwynwen mewn steil eleni. Addurnwyd stafell gyffredin Gorseinon llawn balŵns calonnau coch. Roedd pamffledi stori Dwynwen ymhobman, a digonedd o felysion, ‘Roses’ a chalonnau bach yn cael eu rhoi i’r myfyrwyr i godi ymwybyddiaeth o’r diwrnod hwn.
Ar gampws Llwyn y Bryn, creodd Kath Oakwood, Cynorthwyydd Llyfrgell arddangosfa Santes Dwynwen hyfryd. Bu Marc Nurse, Swyddog Adloniant Myfyrwyr, ar gampws Tycoch yn rhannu melysion dros y campws gan godi ymwybyddiaeth bellach.