Daeth myfyriwr Coginio Proffesiynol o Goleg Gŵyr Abertawe i’r brig yng nghystadleuaeth CogUrdd yr wythnos hon.
Enillodd Jacqueline sy’n fyfyriwr Lefel 3 ar gampws Tycoch y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth 19-25 oed a bydd yn awr yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerffili ym mis Mai.