Mewn ymateb i effaith barhaus Covid-19 ar les economaidd Cymru, mae colegau ar draws y sector addysg bellach wedi tynnu ynghyd â WEFO (Swyddfa Ariannu Ewropeaidd Cymru) i ddatblygu pecyn cymorth er mwyn helpu a chynorthwyo bunsesau yn ystod y cyfnod hwn.
Gyda chefnogaeth cyllid Cronfa Gymdeithasol Ewrop, bydd colegau addysg belach yng Nghymru nawr cynnig hyfforddiant achrededig a chymwysterau hyfforddiant i’w staff. Bydd yr hyfforddiant yn amrywio o lefel 1 hyd at lefel 6, ac wedi ei hariannu gan dri phrosiect rhanbarthol.