Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o lansio ei blatfform dysgu cyntaf oll yr wythnos hon i ddisgyblion ysgol blwyddyn 11 y ddinas.
Gyda’r ansicrwydd parhaus ynghylch Covid-19, roedd y Coleg yn awyddus i gryfhau ei ymateb drwy ddatblygu llwyfan bwrpasol i helpu ymgeiswyr i gadw rheolaeth ar eu dysgu.
Mae’r platfform, a ddatblygwyd ar gyfer darpar fyfyrwyr, yn cynnwys deunyddiau dysgu, gweithgareddau ac offer ar draws amrywiaeth o feysydd cwricwlwm gan gynnwys iechyd a gofal, peirianneg, gwyddoniaeth a busnes. Mae’n cynnwys llwybrau Safon Uwch a galwedigaethol.