Roedd staff a myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe wrth eu bodd yn cefnogi amrywiaeth o ddigwyddiadau Pride Abertawe 2019.
Ar gyfer y sioe Up Next with Pride yn Theatr y Dywysoges Frenhinol - a drefnwyd gan Jermin Productions - roedd myfyrwyr cerddoriaeth o Gampws Llwyn y Bryn wedi cymryd eu lle ymhlith cantorion, dawnswyr, corau a pherfformwyr ifanc i lwyfannu sioe sydd wedi’i disgrifio fel ‘ffrwydrad o ddewrder, hyder ac wrth gwrs talent!’