Mae dau gyn-fyfyriwr y Celfyddydau Perfformio wedi dychwelyd i Goleg Gŵyr Abertawe i rannu geiriau doeth.
Roedd y brodyr Amukelani (Kel) ac Anthony Matsena wedi ymweld â Champws Gorseinon i gwrdd â myfyrwyr presennol a thrafod eu profiadau o glyweld a chystadlu ar gyfer lleoedd mewn colegau drama arbenigol.
Mae Kel newydd ddechrau ei flwyddyn derfynol yn Ysgol Theatr Bristol Old Vic ac mae Anthony, sydd wedi graddio’n ddiweddar o Ysgol Dawns Gyfoes Llundain, yn Gydymaith Ifanc yn Theatr Sadler’s Wells.