Bydd canlyniadau Safon UG a Safon Uwch TGA ar gael i’w casglu o 9am ar ddydd Iau 16 Awst (D4 yng Ngorseinon)
Bydd rhaid i’r holl fyfyrwyr ddod â dull adnabod ffotograffig gyda nhw (bydd cerdyn myfyriwr yn ddelfrydol neu, os nad yw’ch cerdyn myfyriwr gyda chi, bydd trwydded gyrru neu basport yn dderbyniol) pan fyddan nhw’n casglu eu canlyniadau o’r Coleg.
Gall myfyrwyr enwebu rhywun arall i gasglu canlyniadau ar eu rhan ond rhaid iddynt ysgrifennu llythyr sy’n nodi’r unigolyn awdurdodedig a rhaid i’r unigolyn hwnnw ddod â dull adnabod ffotograffig gyda nhw.