Mae ein myfyrwyr rhagorol wedi cael eu hanrhydeddu yn seremoni Gwobrau Blynyddol Coleg Gŵyr Abertawe 2018.
Cynhaliwyd y seremoni yn Stadiwm Liberty, gyda’r enillwyr yn cynrychioli pob agwedd ar fywyd y coleg o letygarwch, busnes a chelf i ieithoedd a gofal.
Roedd troellwr Sain Abertawe Kevin Johns MBE wedi cyflwyno’r seremoni, lle cafodd myfyrwyr eu hanrhydeddu am eu llwyddiannau academaidd a phersonol, ac roedd siaradwr gwadd wedi ymuno ag ef hefyd – yr anturiaethwr, yr awdur a’r cyflwynydd teledu Tori James.